Mae Rhentu Doeth Cymru yn rhedeg ei hyfforddiant ei hun, a gallwch drefnu lle arno drwy’r wefan hon. Isod gallwch weld a oes cwrs addas ar gael mewn lleoliad cyfleus i chi. I gwmnïau sydd am hyfforddi nifer o staff ar yr un pryd , rydym yn gallu darparu trefniadau archebu bloc. Bydd angen trafod hyn a’r ffioedd cysylltiedig yn uniongyrchol gyda ni.
Cwrs undydd yw'r cwrs i landlordiaid, ac fe’i cyflwynir mewn awyrgylch hamddenol gan hyfforddwyr sydd â phrofiad go iawn o weithio yn y sector rhent preifat. Mae'r hyfforddiant yn llawn gwybodaeth, yn berthnasol, ac o werth go iawn i bobl sy'n rhedeg eiddo rhent.
Mae gan Landlordiaid ac Asiantau yr opsiwn i gwbwlhau yr hyfforddiant ar-lein drwy wefan Rhentu Doeth Cymru.
I archebu lle ar gwrs Rhentu Doeth Cymru y peth cyntaf sydd angen I chi ei wneud ydy creu cyfrif ar y wefan hon.
Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i gwrs addas mewn ardal gyfleus, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen Cysylltu â Ni. Dylech chi roi gwybod y cwrs sydd angen arnoch ac ym mha le: bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu ein darpariaeth er mwyn cwrdd â’r angen.
Mae’n ofynnol i landlordiaid sydd yn byw tu allan i Gymru, Lloegr, a’r Alban, neu dros 200 milltir o’r eiddo rhent i benodi asiant lleol*, heblaw bod gan y landlord aelod o staff lleol* a gyflogir yn ffurfiol ar gontract gwasanaeth
Nid yw penodi asiant yn golygu nad oes yn rhaid i’r landlord ddal trwydded hefyd os yw hefyd am gyflawni gweithgareddau gosod a rheoli.
Os nad ydych yn siŵr pa gwrs sy’n addas i’ch sefyllfa, cliciwch ar y bocs gwyrdd isod i lawrlwytho ein canllaw hyfforddiant a fydd yn eich helpu i ddewis y cwrs cywir.
PA GWRS SY’N ADDAS I MI?
Addysgir yn: Saesneg a Chymraeg Lleoliad: Cwrs ar-lein Math o gwrs: Trwyddedu ar-lein Cost (fesul person): £50.00
Gweld manylion
Addysgir yn: Saesneg a Chymraeg Lleoliad: Cwrs ar-lein Math o gwrs: Trwyddedu ar-lein Cost (fesul person): Am ddim
Addysgir yn: Saesneg a Chymraeg Lleoliad: Cwrs ar-lein Math o gwrs: Trwyddedu ar-lein Cost (fesul person): £30.00
Addysgir yn: Saesneg a Chymraeg Lleoliad: Cwrs ar-lein Math o gwrs: Trwyddedu ar-lein Cost (fesul person): £20.00
Addysgir yn: Saesneg a Chymraeg Lleoliad: Cwrs ar-lein Math o gwrs: Hyfforddiant DPP ar-lein Cost (fesul person): Am ddim