Enw'r cwrs: Rheoli Llety Gosod i Fyfyrwyr
Addysgir yn: Saesneg a Chymraeg
Addas ar gyfer: Adnyweddiad
Maes Llafur:
Nod yr hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) hwn yw canolbwyntio'n fanylach ar reoli llety gosod i fyfyrwyr. Ystyriaethau cyn tenantiaeth - penderfynu ar ble i fuddsoddi, gofynion marchnata, mathau o osod, contractau, gwahardd ffioedd i denantiaid, geirdaon a gwarantwyr a thai amlfeddiannaeth Yr eiddo - rhwymedigaethau atgyweirio, iechyd a diogelwch, diogelwch nwy a charbon monocsid ac anwedd Yn ystod y denantiaeth - cadw cofnodion, cyfathrebu a chynyddu rhent Diwedd y denantiaeth - cylch tenantiaeth (gorffen ac adnewyddu) a datrys anghydfodau o ran blaendaliadau Fel canllaw y dylid ystyried y cwrs hyfforddiant hwn. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol bod y cyfreithiau a'r gweithdrefnau sy'n berthnasol i'r maes tai yn gymhleth. Ni fwriedir i'r hyfforddiant hwn ddisodli'r angen i geisio cyngor proffesiynol. Bydden ni’n eich argymell i gymryd nodiadau gydol y cwrs i’ch cynorthwyo â’r asesiad ar gyfer cyfeirio atynt yn y dyfodol.
Cost (fesul person): Am ddim