Er mwyn bodloni gofynion y Cynllun Cofrestru a Thrwyddedu Landlordiaid fel y nodir yn Rhan 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae’n rhaid i’r Awdurdod Trwyddedu lunio a chynnal system sy'n ei alluogi i gasglu data.
Gall y mathau o ddata personol a gedwir ac a brosesir gan Rentu Doeth Cymru gynnwys:
Mae yna hefyd ffurflen fonitro wirfoddol i sicrhau bod Rhentu Doeth Cymru yn sicrhau bod ei wasanaeth yn hygyrch i bawb. Mae hyn yn cynnwys cwestiynau ychwanegol sy'n darparu data personol pellach, ond dim ond at ddibenion ystadegol a chyfeirio y caiff y wybodaeth hon ei phrosesu, ac yn ddienw.
Gall Rhentu Doeth Cymru brosesu data personol i gyflawni ei rwymedigaethau o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, a Deddf Rhentu Cartrefi (ffioedd ac ati) (Cymru) 2019. Gall hyn gynnwys prosesu data personol at bob un neu unrhyw un o'r dibenion fel a ganlyn:
Nodwch fod Rhentu Doeth Cymru yn gweithio mewn Partneriaeth gyda'r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru i gyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf, ac felly bydd yr Awdurdodau Lleol yn hygyrch i wybodaeth a gedwir gan Rentu Doeth Cymru. Yn ogystal, gall Awdurdodau Lleol rannu gwybodaeth berthnasol sydd ganddynt â Rhentu Doeth Cymru er mwyn helpu i benderfynu a yw ymgeisydd yn addas ac yn briodol i weithredu fel landlord trwyddedig neu asiant trwyddedig.
Dim ond at ddibenion Cynllun Rhentu Doeth Cymru y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, ond ar brydiau gall Rhentu Doeth Cymru hefyd rannu data personol â sefydliadau eraill. Mae rhestr o Sefydliadau Rhentu Doeth Cymru yn rhannu data gyda nhw isod.
I gyflawni eu swyddogaethau o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a chyfrifoldebau partneriaeth ac i rannu pryderon ynghylch diffyg cydymffurfio â’r deddfwriaeth
O bryd i'w gilydd, mae Rhentu Doeth Cymru yn derbyn ceisiadau gan wasanaethau eraill o dan ddeddfwriaeth diogelu data. Mae ceisiadau o'r fath yn cael eu hystyried yn unol â gofynion cyfreithiol, fesul achos.
Os ydych yn derbyn gohebiaeth o Rhentu Doeth Cymru, gallai eich gwybodaeth fod wedi cael ei rhannu â Xerox er mwyn cysylltu â chi. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Xerox yn rheoli data personol, edrychwch ar y Polisi Preifatrwydd drwy ddilyn y ddolen hon: www.xerox.co.uk/en-gb/about/privacy-policy
Ni fydd gwybodaeth a gesglir gan Rentu Doeth Cymru yn cael ei chadw am fwy o amser nag sy'n angenrheidiol. Cyfnod cadw Rhentu Doeth Cymru yw 6 + 1 flynedd ar ôl i'r drwydded a / neu'r cofrestriad ddod i ben. Yn dilyn diwedd y cyfnod hwn, bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei dinistrio'n ddiogel.
Mae Rhentu Doeth Cymru yn dymuno cyfathrebu â landlordiaid ac asiantau i'w helpu i roi gwybod iddynt am unrhyw wybodaeth sy'n berthnasol i'r diwydiant ehangach neu ddiweddariadau yn eu hardal leol (megis digwyddiadau fforwm sydd ar ddod, cyfleoedd cyllido posibl, cynlluniau trwyddedu ychwanegol ac ati). Fodd bynnag, mae hyn yn ddewisol a rhaid i landlordiaid ac asiantau ddewis hynny trwy ddewis eu bod yn barod i dderbyn cyfathrebiadau o'r natur hon. Gall defnyddwyr bob amser newid y dewis hwn trwy gyrchu eu cyfrif neu drwy gysylltu â Rhentu Doeth Cymru.
Nid yw Rhentu Doeth Cymru yn gwerthu nac yn darparu data personol i drydydd parti at ddibenion marchnata.
Gweithredir Rhentu Doeth Cymru gan Gyngor Caerdydd. Felly Cyngor Caerdydd yw'r Rheolwr Data mewn perthynas ag unrhyw ddata personol a ddarperir at y dibenion hyn. Bydd yr holl wybodaeth a ddarperir yn cael ei thrin yn gyfrinachol a'i phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 bob amser. I gael mwy o wybodaeth am ofynion diogelu data’r Cyngor, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data dros ebost at: diogeludata@caerdydd.gov.uk.
Cyngor Caerdydd sy'n cynnal Rhentu Doeth Cymru ac mae Hysbysiad Preifatrwydd llawn y Cyngor ar gael yma.
Gallwch arfer eich hawliau unigol, gan gynnwys mynediad at wybodaeth, cywiro gwybodaeth anghywir neu wrthwynebu prosesu eich data personol.
I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau, gallwch ymweld â’rwefan hon.
Gallwch hefyd ysgrifennu at: Y Swyddog Diogelu Data, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW Ebost: hawliauunigol@caerdydd.gov.uk