Enw'r cwrs: Cwrs Landlordiaid Rhentu Doeth Cymru
Addysgir yn: Saesneg
Addas ar gyfer: Landlordiaid
Maes Llafur:
Mae’r cwrs hwn yn darparu trosolwg fras o Ran 1 Deddf Tai (Cymru) 2014 a’r rheswm dros yr hyfforddiant ac mae’n symud ymlaen yn sydyn i ddarparu, mewn modd sy’n denu eich sylw, ystod gynhwysfawr o bynciau a fydd o werth i unrhyw landlord sy’n gosod eiddo i’w rentu yng Nghymru. Mae gan ein holl hyfforddwyr brofiad o reoli eiddo ac maent yn arbenigwyr yn eu dull cyflwyno. Ymhlith y prif feysydd a drafodir mae’r canlynol:
(Cliciwch ar y saeth i ddatgelu cynnwys)
Pwy yw pwy – y landlord a’r tenant
Opsiynau Gosod
Caniatâd i osod
Yswiriant
Treth Incwm a materion treth eraill
Cytundeb ar gyfer Gwasanaethau a Chytundeb Gwasanaeth
Treth Gyngor
Gwelliannau i eiddo/addasiadau
Ble i gael cyngor
Cadw Cofnodion
Hysbysebu eiddo i’w osod a chynnal ymweliadau i weld yr eiddo
Deddfwriaeth Diogelu Defnyddwyr
Tystysgrifau Perfformiad Ynni
Mathau o Denantiaeth a Chytundebau
Blaendaliadau Tenantiaethau a Chynlluniau Gwarantu Bondiau
Fetio tenantiaid
Gwahaniaethu anghyfreithlon
Gosod Rhent a’r Cyfnod Rhent
Rhestrau Eiddo/Rhestrau Cyflwr
Budd-dal Tai, Lwfans Tai Lleol a Chredyd Cynhwysol
Cyfleustodau
Symud tenant i mewn
Termau a awgrymir gan Gyfraith Gyffredin a Chyfraith Statudol
Cyflwr, atgyweiriadau a chynnal a chadw eiddo
Deddf Tai 2004
Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch
Diogelwch Dodrefn
Ymweliadau a Chynnal a Chadw Arferol
Ymdrin â chwynion gan denantiaid
Hawl Mynediad a Gwrthod Mynediad
Gweithdrefnau mewn Achosion Brys
Newid Telerau Tenantiaeth
Ymestyn/Adnewyddu Cytundebau Tenantiaeth
Rhent
Cysylltiadau rhwng y Landlord a’r Tenant
Niwsans ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Ymadael
Tenant yn dod â Thenantiaeth i Ben
Mae’r asesiad yn cynnwys 20 cwestiwn amlddewis. Bydd angen i chi gael sgôr o 70% (14 ateb cywir) i basio’r asesiad a chwblhau’r cwrs. Sicrhewch eich bod yn darllen y cwestiwn a'r atebion priodol cyn dewis.
Canslo Cyrsiau
Os digwydd i Rhentu Doeth Cymru ganslo cwrs neu newid amser, lleoliad neu ddyddiadcwrs, byddwn yn ymdrechu i gysylltu â phawb, gan gynnwys y lleoliad, yrhyfforddwyr ac unrhyw gleientiaid sydd wedi cofrestru ar y cwrs cyn gynted ag ybo modd.
Bydd Rhentu Doeth Cymru ond yncanslo’r cwrs os na fydd digon o enwau wedi cofrestru, (llai na 15 o gynrychiolwyr) o leiaf 15 diwrnod cyndyddiad dechrau’r cwrs. Gall cyrsiau gael eu canslo oherwydd amgylchiadauarbennig ar unrhyw adeg. Os bydd angen i Rhentu Doeth Cymru ganslo cwrs, caiff lle ar gwrs arall ei gynnig yn ydyfodol i bob cleient sydd wedi cofrestru neu cynigir ad-daliad llawn.
Parcio Gofalwch eich bod yn darllen y cyfarwyddiadau isod. Nid oes cyfleusterau parcio am ddim ym mhob lleoliad. Pan nad oes cyfleusterau parcio am ddim ar gael gostyngir ffioedd y cwrs i wneud yn iawn am y costau parcio lleol.
Diogelu Data Bydd Rhentu Doeth Cymru yn prosesu eich gwybodaeth yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018. Caiff eich gwybodaeth ei thrin yn gyfrinachol ond caiff ei rhannu gyda’n darparwyr hyfforddiant dan gontract fel rhan o ddarpariaeth gwasanaeth. I gael rhagor o wybodaeth ar sut mae Rhentu Doeth Cymru yn rheoli ac yn rhannu data personol, gweler ein polisi preifatrwydd yma. here.
Cyrsiau Dosbarth Cymraeg Mae cyrsiau Dosbarth Rhentu Doeth Cymru ar gael yn Gymraeg. Os hoffech holi am gwrs Cymraeg cysylltwch â Rhentu Doeth Cymru dros y ffôn: 03000 133 344 neu e-bostiwch: HyfforddiantRhentuDoethCymru@caerdydd.gov.uk.
Dyddiad cychwyn: 17 Maw 2020 - 8:45 AM Dyddiad gorffen: 17 Maw 2020 - 4:00 PM
Cost (fesul person): £100.00
Lleoedd sy'n weddill: 7
Lleoliad: ABERTAWESA1 8QY