Oes angen i mi ymgeisio am drwydded landlord?

Darllenwch ac atebwch y cwestiynau canlynol i weld a oes angen i chi ymgeisio am drwydded landlord gan Rhentu Doeth Cymru.

Gwaith gosod:
  • trefnu a chynnal ymweliadau gan ddarpar denantiaid;
  • casglu tystiolaeth i benderfynu o ran addasrwydd darpar-denantiaid (er enghraifft, drwy gadarnhau geirdaon, cyflawni gwiriadau credyd neu gyfweld â darpar denant);
  • paratoi, neu drefnu i baratoi, y cytundeb tenantiaeth;
  • paratoi, neu drefnu i baratoi, unrhyw stocrestr neu restr o gyflwr.
Gwaith rheoli eiddo:
  • casglu rhent;
  • bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer y tenant mewn perthynas â materion sy’n codi o dan y denantiaeth;
  • gwneud trefniadau gyda pherson i ymgymryd â gwaith trwsio neu gynnal a chadw;
  • gwneud trefniadau gyda thenant neu feddiannwr yr annedd i sicrhau mynediad i’r annedd at unrhyw ddiben;
  • cadarnhau cynnwys neu gyflwr yr annedd, neu drefnu iddynt gael eu cadarnhau;
  • cyflwyno hysbysiad terfynu tenantiaeth.

A ydych yn ymgymryd ag unrhyw un o'r uchod mewn eiddo rhent yng Nghymru lle mae gennych ddiddordeb landlord?

Bydd eich sesiwn yn dod i ben ymhen xx.xx. Ydych eisiau Parhau neu Allgofnodi
Bydd eich sesiwn yn dod i ben ymhen xx.xx
Parhau neu Allgofnodi