Oes angen i mi ymgeisio am drwydded asiant?

Darllenwch ac atebwch y cwestiynau canlynol i weld a oes angen i chi ymgeisio am drwydded asiant gan Rhentu Doeth Cymru.  

Mae angen trwydded ar berson (unigolyn neu gwmni) sy’n gweithredu ar ran landlord o dan gyfarwyddyd y landlord mewn eiddo yng Nghymru os yw’n bodloni’r canlynol. Edrychwch ar y gwaith a restrir o dan y penawdau ‘Gwaith Gosod Asiantau’ a ‘Gwaith Rheoli Eiddo Asiantau’. Os ydych yn cyflawni gwaith casglu rhent ar ran landlord mewn eiddo rhent yng Nghymru, rydych yn bodloni’r meini prawf yn awtomatig o ran cyflawni gwaith Gosod a Rheoli y bydd angen trwydded asiant arnoch amdano.

 
Gwaith Gosod Eiddo Asiant

Gall un o’r rhain gael ei wneud heb fod angen trwydded, ar yr amod na wneir dim o dan yr adran 'gwaith rheoli eiddo asiant'.

  • cyhoeddi hysbysebion neu ddosbarthu gwybodaeth;
  • trefnu a chynnal ymweliadau gan ddarpar denantiaid;
  • paratoi, neu drefnu i baratoi, y cytundeb tenantiaeth;
  • paratoi, neu drefnu i baratoi, unrhyw stocrestr neu restr o gyflwr;
Gwaith Rheoli Eiddo Asiant

Mae’n dderbyniol i wneud un o'r canlynol heb fod angen trwydded arnoch, ar yr amod na wneir dim o dan yr adran 'Gwaith Gosod Asiant'.

  • bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer y tenant mewn perthynas â materion sy’n codi o dan y denantiaeth;
  • gwneud trefniadau gyda pherson i ymgymryd â gwaith trwsio neu gynnal a chadw;
  • gwneud trefniadau gyda thenant neu feddiannwr yr annedd i sicrhau mynediad i’r annedd at unrhyw ddiben;
  • cadarnhau cynnwys neu gyflwr yr annedd, neu drefnu iddynt gael eu cadarnhau;
  • cyflwyno hysbysiad terfynu tenantiaeth.

A ydych yn cyflawni gwaith sy'n bodloni’r meini prawf uchod mewn eiddo rhent yng Nghymru lle rydych yn gweithredu ar ran landlord?

Bydd eich sesiwn yn dod i ben ymhen xx.xx. Ydych eisiau Parhau neu Allgofnodi
Bydd eich sesiwn yn dod i ben ymhen xx.xx
Parhau neu Allgofnodi