I gael gwybodaeth am sut i gofrestru cliciwch yma, neu am sut i gael trwydded cliciwch yma. Dewch o hyd i atebion i gwestiynau llai cyffredin yma.
Na - dim ond eiddo yng Nghymru sydd angen eu nodi ar eich cofrestriad.
Os oes gennych chi Atwrneiaeth dros landlord, yna bydd angen i chi greu cyfrif defnyddiwr Rhentu Doeth Cymru yn eich enw gan roi’r holl wybodaeth ofynnol. Yna bydd angen i chi greu cofrestriad landlord ar ran y rhoddwr. Eich wybodaeth chi ddylech ei rhoi, megis enw, dyddiad geni a gwybodaeth gohebu (cyfeiriad, ffôn ac e-bost), er mwyn sicrhau mai dim ond â chi rydym yn cysylltu.
Bydd math y cofrestriad yn dibynnu ar y trefniant Atwrneiaeth sydd gennych. Os mai chi yw’r unig berson ag Atwrneiaeth, bydd angen i chi ddewis math 'unigolyn'. Os oes aml i atwrnai, bydd angen i chi ddewis math 'ar y cyd'. Os ydych yn dewis math 'ar y cyd', gofynnir i chi roi enw, dyddiad geni a chyfeiriad e-bost yr atwrneiod eraill.
Pan fydd y cofrestriad yn gofyn am enwau ychwanegol, fe dylech dewis 'Atwrneiaeth' o'r rhestr.
Os ydych chi fel Atwrnai yn gwneud y gweithgareddau gosod a/neu reoli yn yr eiddo rhent ar ran y landlord, bydd gofyn i chi wneud cais am drwydded asiant. Os nad ydych yn gwneud gweithgareddau gosod a/neu reoli yn eiddo rhent y landlord ac mae asiant wedi ei benodi, dylech ei gysylltu at yr eiddo wrth gwblhau cofrestriad y landlord.
Os yw landlord/asiant eiddo rhent yn marw, dylai'r ysgutor, y perthynas agosaf, neu’r cynrychiolydd cyfreithiol roi gwybodi Rhentu Doeth Cymru o fewn 28 diwrnod.
I wneud hyn cyflawnch Ffurflen 'Dim Angen Cofrestriad/Trwydded Bellach', y gellir ei lawrlwytho yma, neu gallwch gysylltu â ni ar 03000133344.
Dim ond y cynrychiolydd cyfreithiol, yr ysgutor neu'r perthynas agosaf all lenwi'r ffurflen hon ar ran y landlord/asiant sydd wedi marw.
Os oes gan yr eiddo rhent denant mewn meddiant, yna rhaid i ysgutor/cynrychiolydd cyfreithiol y landlord gwblhau cofrestriad landlord ar gyfer yr eiddo a rhaid i'r person sydd bellach yn gyfrifol am weithgareddau gosod a/neu reoli’r eiddo rhent gael ei drwyddedu'n briodol i wneud hynny.
Mae dau opsiwn taliad gwahanol:
Opsiwn 1 - Talu ffi’r drwydded yn llawn wrth cyflwno eich cais: dyma’r opsiwn sydd â disgownt.
Opsiwn 2 - Talu ffi’r drwydded mewn rhannau: Mae’r opsiwn rhannu taliad yn cynnwys talu ffi’r drwydded mewn dwy ran. Rhaid i Rhan 1 gael ei wneud cyn cyflwyno’r cais am drwydded, a rhaid talu Rhan 2 o fewn 14 diwrnod i gael hysbysiad gan Rhentu Doeth Cymru. Mae Opsiwn 2 yn ddrytach gan ei fod yn cynnwys £39 ychwanegol ar gyfer gweinyddiaeth. Os na fyddwch yn talu Rhan 2 y ffi ranedig pan ofynnir i chi wneud hynny gan Rhentu Doeth Cymru, ystyrir nad yw eich cais am drwydded wedi ei gyflwyno, ac na fyddwch yn cydymffurfio â'ch rhwymedigaethau cyfreithiol.
I weld Polisi Ffïoedd, cliciwch yma.
Os nad ydych yn gallu teithio, eich bod yn byw tu allan i Gymru neu’n methu â mynychu cwrs oherwydd ymrwymiadau gwaith, gallwch gwblhau eich hyfforddiant ar-lein gyda ni neu drwy darparwr allanol awdurdodedig. Gallwch weld yr opsiynau hyfforddi yma.
Mae landlord angen trwydded i ymgymryd ag unrhyw un o'r gweithgareddau a restrir isod. Lle nad yw landlord yn cyflogi asiant, bernir ei fod yn ymgymryd â'r gweithgareddau hyn yn ddiofyn.
Gwaith gosod
Gwaith rheoli eiddo
*Os ydych yn gwneud gwaith atgyweirio yn unig mewn eiddo ac nad ydych yn ymwneud ag unrhyw weithgareddau gosod a rheoli eraill, nid yw'n ofynnol i chi gael trwydded landlord.
Bydd angen trwydded ar asiant os yw’n casglu rhent neu weithredu ar gyfarwyddyd gan landlord neu denant i ymgymryd â mwy nag un o'r gweithgareddau canlynol
Gwaith gosod eiddo asiant
Gwaith rheoli eiddo asiant
*Os ydych yn gwneud gwaith atgyweirio yn unig mewn eiddo ac nad ydych yn ymwneud ag weithgareddau gosod a rheoli (fel y dysgrifir), nid yw'n ofynnol i chi gael trwydded asiant.
Efallai na fydd angen i landlordiaid preswyl gydymffurfio â Deddf Tai (Cymru) 2014. Mae hwn yn dibynnu a yw'r eiddo wedi'i adeiladu neu ei addasu'n bwrpasol a hefyd y math o gytundeb tenantiaeth sydd wedi'i chreu.
Os rhowch denantiaeth ond eich bod yn 'landlord preswyl', wedyn nid tenantiaeth fyrddaliadol neu sicr fydd y denantiaeth. Yn gyffredinol mae’r rheol hon yn berthnasol i dai wedi’u newid a'u rhannu. Felly os mai fflat mewn adeilad sydd wedi’i newid yn fflatiau yw’ch unig neu’ch prif gartref a’ch bod wedyn yn gosod fflat arall yn yr un adeilad hwnnw, ni fydd y trefniant yn denantiaeth fyrddaliadol neu sicr. Nid oes angen i chi rannu unrhyw lety gyda’r meddiannydd i gael eich ystyried yn landlord preswyl. Mae’r ffaith eich bod yn byw yn yr un adeilad yn ddigon.
Fodd bynnag, os ydych yn byw mewn bloc o fflatiau pwrpasol a’ch bod yn gosod un o’r fflatiau eraill yn yr un bloc, ni ystyrir chi fel landlord preswyl a thenant byrddaliadol neu sicr fydd y tenant. Os ydych yn byw mewn bloc pwrpasol, byddwch ond yn landlord preswyl os ydych yn gosod rhan o fflat rydych yn ei feddiannu fel eich cartref. Os at ddefnydd y tenant yn unig yw unrhyw ran o’r llety a bod y tenant yn gallu defnyddio rhan arall o’r llety, megis y lolfa neu gegin gyffredin, ynghyd â rhywun heblaw am chi, mae’n debygol bod ganddo denantiaeth fyrddaliadol neu sicr.
Ydy. Yr ymddiriedolaeth yw perchennog cyfreithiol ac felly landlord yr eiddo. Os ydych yn gosod eiddo ar Denantiaeth Sicr, Tenantiaeth Fyrddaliol Sicr neu Denantiaeth Reoleiddiedig, bydd angen cwblhau cofrestriad.
Dylid rhoi manylion yr ymddiriedolaeth, nid yr ymddiriedolwr/ymddiriedolwyr unigol sy’n cwblhau’r ffurflen gofrestru.
Os yw’r eiddo’n cael ei reoli gan asiantaeth, bydd angen i’r asiantaeth honno fod wedi’i thrwyddedu.
Os yw un neu fwy o’r ymddiriedolwyr eu hunain yn gyfrifol am y gwaith rheoli eiddo, gellir gwneud cais am drwydded sengl (eto, gan ddefnyddio manylion yr ymddiriedolaeth); byddai angen wedyn i bob unigolyn sy’n gwneud gwaith rheoli yn yr eiddo cwblhau hyfforddiant.
Mae Rhentu Doeth Cymru yn wasanaeth hunangynhoeddol ond nid er elw. Mae incwm a gynhyrchir o ffioedd yn talu cost darparu'r gwasanaeth fel y caniateir yn ôl y gyfraith. Mae hyn yn cynnwys gwaith i brosesu ceisiadau, helpu a chefnogi cwsmeriaid, ac i sicrhau gwelliannau yn y sector. Cyflawnir hyn drwy sicrhau bod trwyddedeion yn cydymffurfio ag amodau eu trwydded a bod cwynion a gwybodaeth a dderbynnir yn cael eu hymchwilio'n drylwyr.
Gallwch ddidynnu'r costau hyn wrth gyfrifo'ch elw trethadwy ar y costau hyfforddi a dalwyd gennych, gan ei fod yn ymwneud â chynllun gorfodol ar gyfer pob landlord neu asiant sy'n rheoli eiddo yng Nghymru.