Mae Rhentu Doeth Cymru wedi ffurfio partneriaeth ag Yes Energy Solutions, Sure Maintenance ac awdurdodau lleol ledled Cymru i ddyrannu cyllid Datrysiadau Cynhesrwydd Fforddiadwy er mwyn gosod systemau gwres canolog mewn 'cartrefi oer'.
Ni chaiff eich gwybodaeth ei rhannu ag Yes Energy a phartneriaid a chontractwyr perthnasol oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd trwy gwblhau ffurflen ganiatâd.
Gall enghreifftiau o ddata personol a gedwir ac a brosesir gan Rhentu Doeth Cymru gynnwys:
Caiff data ei ddefnyddio i asesu addasrwydd yr ymgeisydd a'r meddianwyr i gael arian a swm yr arian hwnnw ac i drefnu, darparu a sicrhau taliadau ar gyfer gwaith a wneir mewn eiddo addas.
Ni fydd gwybodaeth a gesglir gan Rhentu Doeth Cymru yn cael ei chadw am fwy o amser nag sy’n angenrheidiol. 6 + 1 o flynyddoedd yw cyfnod cadw Rhentu Doeth Cymru ar ôl i'r anfoneb derfynol neu'r gweithgarwch achos gael ei thalu/ei dalu.
Mae Yes Energy Solutions yn rheolwr data ar y cyd â Chyngor Caerdydd mewn perthynas ag unrhyw ddata personol a ddarperir at y dibenion hyn. Caiff yr holl wybodaeth a ddarperir ei thrin yn gyfrinachol a’i phrosesu yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol a Deddf Diogelu Data 2018. I gael rhagor o wybodaeth am Yes Energy a'r data a gedwir ganddynt, cysylltwch â'u Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid:
Ffôn: 01422 880 100 Ffurflen Gyswllt y Wefan: www.yesenergysolutions.co.uk neu drwy lythyr wedi'i gyfeirio at:
Data Protection Manager YES Energy Solutions Unit 1, Brookwoods Industrial Estate Burrwood Way Holywell Green Halifax, HX4 9BH
Mae hysbysiad preifatrwydd Yes Energy ar gael yma
Gall caniatâd gael ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg trwy gysylltu â Rhentu Doeth Cymru ar 03000 133344 a YES Energy Solutions ar 01422 880100.