Enw'r cwrs: Rheoliadau Diogelu Data
Addysgir yn: Saesneg a Chymraeg
Addas ar gyfer: Adnyweddiad
Maes Llafur:
Nod y cwrs hwn yw rhoi trosolwg o gyfrifoldebau landlordiaid ac asiantau mewn perthynas â chasglu, prosesu, rhannu a storio gwybodaeth a gesglir ganddynt gan denantiaid.
Mae prif amcanion y cwrs yn cynnwys dealltwriaeth:
Mae'r cwrs hwn yn trafod:
1. Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC)
2. Sut mae hyn yn effeithio ar landlordiaid?
3. Sut mae hyn yn effeithio ar asiantau?
4. Beth yw'r seiliau cyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth?
5. Y gwahaniaeth rhwng proseswyr data a rheolwyr data
6. Oes rhaid i bob rheolwr data gofrestru?
7. Pa ddata y mae landlordiaid ac asiantau’n ei gasglu/brosesu?
8. Beth yw hysbysiadau preifatrwydd?
9. Hawl i gael eich anghofio
10. Beth yw goblygiadau methu cydymffurfio?
11. Enghreifftiau bywyd go iawn
12. Gwybodaeth bellach
Asesiad
Mae'r asesiad yn cynnwys 10 o gwestiynau aml-ddewis. Bydd angen i chi gael sgôr o 70% (ateb 7 yn gywir) i lwyddo yn yr asesiad a chwblhau'r cwrs.
Bydd angen i chi fynd drwy'r asesiad mewn un eisteddiad. Yn wahanol i'r modiwlau lle gallwch arbed eich cynnydd a dychwelyd yn ddiweddarach, nid yw'n bosibl gwneud hyn gyda'r asesiad.
Dylech sicrhau eich bod yn darllen y cwestiwn a'r priod atebion cyn dewis eich ateb. Os ydych yn methu ein cwrs ar eich ymdrech cyntaf, rydyn yn darparu cwrs ail-eistedd am ddim.
Cost (fesul person): Am ddim