Enw'r cwrs: Hyfforddiant Trwydded Landlord
Addysgir yn: Saesneg a Chymraeg
Addas ar gyfer: Trwydded Cyntaf
Maes Llafur:
Nod y cwrs yw darparu hyfforddiant cymeradwy, fel y nodir yn Rheoliadau Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Gofynion Hyfforddiant) (Cymru) 2015, i roi gwybodaeth berthnasol a chyfoes i landlordiaid ac asiantau er mwyn rheoli tenantiaethau llwyddiannus o fewn y gyfraith.
Mae prif amcanion y cwrs yn cynnwys deall:
Fel canllaw y dylid ystyried y cwrs hyfforddiant hwn. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol bod y cyfreithiau a'r gweithdrefnau sy'n berthnasol i'r maes tai yn gymhleth. Ni fwriedir i'r hyfforddiant hwn ddisodli'r angen i geisio cyngor proffesiynol.
Noder: Ar ôl i chi gwblhau’r asesiad ar-lein ni fydd gennych fynediad i ddeunydd y cwrs.
Bydden ni’n eich argymell i gymryd nodiadau gydol y cwrs i’ch cynorthwyo â’r asesiad ar gyfer cyfeirio atynt yn y dyfodol. Rydym wedi creu dogfen word y gallwch ei hargraffu neu ei golygu ar eich cyfrifiadur i wneud nodiadau o gynnwys y cwrs. *Bydd hyn ond yn gweithio os oes gennych Microsoft Software.*
Cliciwch yma i lawrlwytho’r adnodd hwn.
Mae'r asesiad yn cynnwys 20 o gwestiynau aml-ddewis. Bydd angen i chi gael sgôr o 75% (ateb 15 yn gywir) i lwyddo yn yr asesiad a chwblhau'r cwrs.
Bydd angen i chi fynd drwy'r asesiad mewn un eisteddiad. Yn wahanol i'r modiwlau lle gallwch arbed eich cynnydd a dychwelyd yn ddiweddarach, nid yw'n bosibl gwneud hyn gyda'r asesiad.
Dylech sicrhau eich bod yn darllen y cwestiwn a'r priod atebion cyn dewis eich ateb. Os ydych yn methu ein cwrs ar eich ymdrech cyntaf, rydyn yn darparu cwrs ail-eistedd am ddim. Bydd mwy o wybodaeth am sut i ail-eistedd yn cael ei darparu ar ddiwedd y cwrs.
Cost (fesul person): £30.00