Deddfwriaeth Cyffredinol Gorfodaeth Ymgynghoriad Polisi Trwyddeu HMO Abertawe 14 Ion 2020 Ar hyn o bryd mae Cyngor Abertawe yn adolygu ei Bolisi Trwyddedu HMO gyda'r bwriad o fabwysiadu polisi newydd ar gyfer 2020. Byddai hyn yn cynnwys adnewyddu'r cynllun Trwyddedu HMO Ychwanegol ar gyfer wardiau'r Castell ac Uplands a chyflwyno trwyddedu HMO yn ward St Thomas. Gallwch ddarllen y polisi drafft a chrynodeb o newidiadau o bolisi cyfredol 2016 ar wefan y cyngor yma. Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus yn agored tan 19 Chwefror 2020 ac mae Cyngor Abertawe yn croesawu eich sylwadau yn ei gylch. E-bostiwch eich sylwadau i ymgynghorihmo@abertawe.gov.uk neu drwy ysgrifennu i'r Is-adran Llygredd a 'r Sector Tai Preifat, Cyfarwyddiaeth Lleoedd, Dinas a Sir Abertawe, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN. Adroddir am y polisi hwn i'r cyngor ar ddechrau 2020. Tan hynny, bydd y polisi, yr atodiadau a'r ffïoedd presennol yn berthnasol. Caiff crynodeb o'r sylwadau a dderbynnir eu cynnwys yn yr adroddiad i'r cyngor. Ni chaiff ymatebwyr unigol eu henwi.