Dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae rhwymedigaethau cyfreithiol ar landlordiaid sydd ag eiddo rhent yng Nghymru. Mae’r tudalennau hyn yn esbonio’r rhwymedigaethau hyn ac yn eich helpu i ddeall y broses.
Gall landlordiaid sy’n gweithredu unrhyw le yng Nghymru gydymffurfio â’r gyfraith newydd drwy gwblhau’r cais priodol ar y wefan hon. I ddechrau’r broses, rhaid i chi greu cyfrif. Dechrau
Mae’n rhaid i unrhyw landlord sydd ag eiddo rhent yng Nghymru sy'n cael ei rentu ar denantiaeth sicr, tenantiaeth fyrddaliol sicr neu denantiaeth reoleiddiedig gael ei gofrestru. Y math o berchnogaeth eiddo fydd yn pennu pwy ddylai ei gofrestru. Caiff pob cofrestriad ei brosesu gan Rhentu Doeth Cymru. Darllen mwy
Nid oes angen trwydded ar landlordiaid nad ydynt yn rhan o’r gwaith o osod tenantiaethau a rheoli eu heiddo rhent; fodd bynnag, rhaid iddynt ddefnyddio asiant trwyddedig lleol a chofrestru fel landlord gan nodi'r asiant ar y cofrestriad. Mae angen i landlordiaid sydd yn cyflawni tasgau gosod a rheoli yn eu heiddo rhent yng Nghymru wneud cais am drwydded. Yn aml, gelwir landlordiaid o’r fath yn landlordiaid ‘hunan-reoli’. Darllen mwy
Cliciwch ar gwestiwn i weld yr ateb i'r cwestiynau cyffredin hyn
Rhaid i bobl sy’n delio â thenantiaethau drwy gyflawni tasgau gosod a rheoli gyflawni hyfforddiant i gael trwydded..